Prosiect arbennig yw Am Gorllewin Caerdydd sy’n digwydd yn ardaloedd Trelái a Chaerau yng Nghaerdydd yn y cyfnod sy’n arwain at yr ŵyl. Yn cynnwys dawns, sain a ffilm, mae’n cael ei arwain gan y coreograffydd Joanna Young a’r cyfansoddwr Jamie McCarthy.
Eisiau cymryd rhan? Gyrrwch e-bost at info@dance.wales.
Mae Am Gorllewin Caerdydd wedi’i gefnogi gan Gyngor Dinas Caerdydd.
Diolch i’r sefydliadau canlynol sydd eisoes yn cymryd rhan:
GCT — Gweithredu yng Nghaerau a Threlái
Coleg Cymunedol Llanfihangel-ar-Elái
Ysgol Arbennig Tŷ Gwyn
Ysgol Uwchradd Woodlands