Laila Dailo a Jules Maxwell
(DU/Franc)
'Yn ganolog i’r cwbl mae naw cadair. Ni’n dau a naw cadair. Yn eu tro, maen nhw, a ninnau, yn unigrwydd, yn goflaid, yn atgof, yn argraff, yn dystion. Maent yn esgyrn, yn goedwig, maent wedi’u pentyrru, maent yn adladd, yn neuadd ddawns, maent yn gorffwys, maent yn brin o un, yn dal ein pwysau, yn ein dal wrth aros. Maent yn ddi-rif. A naw cadair felen ydyn nhw.’ — Laïla Diallo
Mae Countless Yellow Chairs yn ein gwahodd i synfyfyrio ar ddatblygiad digwyddiadau sy’n siarad am bresenoldeb, y cof, atgofion a threigl amser. Mae’r gwrthrychau’n ganolbwynt i’n sylw, gan danio ein dychymyg a dwyn i’r goleuni beth o’n dynoldeb ein hunain.
Wedi’i dyfeisio a’i pherfformio gan y gwneuthurydd dawns Laïla Diallo a’r cyfansoddwr Jules Maxwell, mae Countless Yellow Chairs yn dilyn eu cywaith cyntaf, Hold Everything Dear.
Mae Laïla hefyd yn perfformio yn In This Moment fel rhan o raglen ddwbl gyda Chwmni Liz Roche ddydd Iau 9 Tachwedd. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
'Genau cegrwth a sbigynnau Jwrasig, crocbren ar ben bryn a chatrodau syrthiedig, ogofâu’n ymagor o greigiau ysgithrog a thynerwch dynol blêr a byrhoedlog mewn byd llinol glân. Cymaint o ddelweddau’n cael eu hawgrymu gan naw cadair felen.’
Katy Noakes, Restaged ac One Dance UK
‘Cydosodiad tringar a meddylgar o symudiad a cherddoriaeth’
The Times ar Hold Everything Dear
Cydnabyddiaethau
Wedi’i dyfeisio a’i pherfformio gan Laïla Diallo a Jules Maxwell
Lluniau gan Jack Offord
Ariennir Countless Yellow Chairs gan Gyngor Celfyddydau Lloegr. Cydgomisiynwyd gan Theatr Bryste, ICIA Caerfaddon a Ferment Old Vic Bryste/Sefydliad Elusennol Jerwood.
Laïla Diallo a Jules Maxwell
Gwneuthurydd dawns yw Laïla Diallo sy’n byw ym Mryste. Mae gwaith diweddar yn cynnwys Edge and Shore, cywaith â’r artist gweledol Helen Carnac a gomisiynwyd gan Dawns Siobhan Davies ac a gyflwynwyd ddiwethaf yn Oriel Whitechapel yn Llundain a Something about wilderness and several attempts at taming beauty, cywaith â’r coreograffydd Mélanie Demers a gomisiynwyd gan Skånes Dansteater yn Sweden. Gan dderbyn Cymrodoriaeth Rayne ar gyfer Coreograffwyr yn 2006, roedd Laïla hefyd yn Artist Cyswllt yn ROH2, Y Tŷ Opera Brenhinol, rhwng 2009 a 2012.
Cyfansoddwr caneuon ac i’r theatr yw Jules Maxwell sy’n byw yng ngogledd Ffrainc. Mae ei waith diweddar yn cynnwys Doctor Faustus, Antony and Cleopatra, The Merchant of Venice a Boudica yn Theatr y Glôb yn Llundain, Virgin Territory i Theatr Ddawns Vincent a Spectrum i Skånes Dansteater yn Malmo. Fel pianydd mae Jules wedi teithio gyda Dead Can Dance, Duke Special a Foy Vance. Ar hyn o bryd mae’n cydweithio â Lisa Gerrard ar ganeuon i Le Mystère des Voix Bulgares a’r cynllunydd goleuo Lucy Carter ar osodwaith sain a golau.
Bu Laïla a Jules hefyd yn cydweithio ar Hold Everything Dear.