Os ydych chi’n cau’ch llygaid ac yn gwrando beth rydych chi’n ei glowed?
Pan fyddai Morfydd Owen yn cau ei llygaid ni chlywai ond cerddoriaeth. Byddai caneuon, symffonïau a darnau i’r piano’n dylifo drwyddi.
Mewn ychydig flynyddoedd byr enillodd fwy o wobrau na neb arall yn hanes yr Academi Gerdd Frenhinol. Ac yna, yn 26 oed, bu farw ar ôl cael llawdriniaeth gan ei gŵr ar fwrdd y gegin.
Mae I loved you and I loved you yn ymdrin â cherddoriaeth Morfydd a’i pherthynas gythryblus â’r dyn oedd yn briod iddi a’r dyn roedd hi’n ei garu.
Yn cael ei pherfformio gan dri dawnsiwr neilltuol, y pianydd Brian Ellsbury a’r soprano Sioned Terry.
Cyfarwyddwr: Sally Marie Cyfarwyddwr Cerdd: Brian Ellsbury Cynllunydd Goleuo: James McKenzie Cynllunydd Sain: Philip Jeck Cynllunydd Gwisgoedd: Emma Bailey Fideograffydd: Roswith Chesher Cynhyrchwyr: Martin Collins ac Carole Blade Cynhyrchydd Cynorthwyol: Elisabeth Schiling Perfformwyr: Faith Predergast, Daniel Whiley, Karl Fagerlund Brekke, Sioned Terry ac Brian Ellsbury
Cydgynhyrchwyd gan Galeri Caernarfon gyda chefnogaeth gan Y Lowry, Trinity Laban, Yr Ysgol Fale Ganolog, Greenwich Dance a National Theatre Wales.
Cefnogir gan gynlluniau Loteri Cyngor Celfyddydau Lloegr a Chyngor Celfyddydau Cymru.