Rhaglen ddwbl arbennig yn cynnwys dau ddarn penigamp, Wrongheaded Cwmni Liz Roche ac In This Moment Laïla Dailo.
Yn ddewr ac yn ystyriol, perfformiad dawns sydd wedi’i saernïo’n gain yw Wrongheaded. Yn rhannol yn ffilm, yn rhannol yn destun, yn rhannol yn berfformiad byw, mae’n ymchwilio i syniadau a phrofiadau o gwmpas hunaniaeth gorfforol a gwleidyddiaeth y corff. Gan fynegi dicter, rhwystredigaeth a gobaith tyner, mae testun barddonol Elaine Feeney yn tanlinellu’r darn, gyda gwaith ffilm gan Mary Wycherley.
Deilliodd In This Moment y llynedd o Countless Yellow Chairs, gwaith a grëwyd gan Laïla Diallo ar y cyd â’r cyfansoddwr Jules Maxwell. Gan dynnu ar ddeunydd y darn hwnnw a’i drawsnewid, mae Laïla yn cael hyd i edeifion a chysylltiadau newydd ar gyfer y gwaith un-ddynes grymus hwn. Mae ei hymchwiliad yn cyffwrdd ar syniadau o newid, y cof, atgofion a threigl amser.
I sat still until the stillness filled with movement. I went in search of a furious dance. I tried to weave past and future in the moment.
Perfformiadau eraill yng Ngŵyl Ddawns Caerdydd gan yr artistiaid hyn
Perfformir Wrongheaded fel rhan o ddigwyddiad agoriadol yr Ŵyl nos Fercher 8 Tachwedd. Cliciwch yma am fanylion.
Bydd Laïla Diallo a Jules Maxwell yn perfformio Countless Yellow Chairs nos Sadwrn 11 Tachwedd. Cliciwch yma am fanylion.
Yn Chapter mae’r ddau berfformiad.
'Pleser mawr i ni yw cael cwmni Liz a Laïla yn perfformio ochr yn ochr â’i gilydd. Artistiaid ffantastig yw’r ddwy. Mae eu gwaith yn teimlo fel yr haul yn taro oddi ar gledr dy law.'
Chris Ricketts, cyfarwyddwr artistig
Cydnabyddiaethau
Wrongheaded Coreograffi a chysyniad: Liz Roche Ffilm: Mary Wycherley Testun: Elaine Feeney Cynllunio goleuo: Sinead Wallace Cerddoriaeth: Ray Harman Perfformwyr: Sarah Cerneaux a Justine Cooper
In This Moment Dyfeisiwyd gan Laïla Diallo a Jules Maxwell Perfformir gan Laïla Diallo Cerddoriaeth gan Jules Maxwell Cyflwynwyd gyda chefnogaeth Ferment Old Vic Bryste
Cwmni Liz Roche a Laïla Diallo
Un o brif ymarferwyr dawns Iwerddon yw Liz Roche. Yn ddiweddar, bu ei chwmni, Cwmni Liz Roche, yn perfformio Totems ar gyfer ailagor Oriel Genedlaethol Iwerddon a nhw yw cwmni preswyl Gŵyl Ddawns Dulyn.
Gwneuthurydd dawns yw Laïla Diallo sy’n byw ym Mryste. Mae gwaith diweddar yn cynnwys Edge and Shore, cywaith â’r artist gweledol Helen Carnac a gomisiynwyd gan Dawns Siobhan Davies ac a gyflwynwyd ddiwethaf yn Oriel Whitechapel yn Llundain a Something about wilderness and several attempts at taming beauty, cywaith â’r coreograffydd Mélanie Demers a gomisiynwyd gan Skånes Dansteater yn Sweden. Gan dderbyn Cymrodoriaeth Rayne ar gyfer Coreograffwyr yn 2006, roedd Laïla hefyd yn Artist Cyswllt yn ROH2, Y Tŷ Opera Brenhinol, rhwng 2009 a 2012.
Mae ymweliad Liz Roche Company â Gŵyl Ddawns Caerdydd yn cael ei gefnogi gan Culture Ireland.