'Mae Jonathan Burrows a Matteo Fargion wedi creu perfformiad sy’n dawnsio yn eich pen. Mae’n wych.' De Morgen, Gwlad Belg
Mae hyfrydwch yn disgleirio o waith Burrows a Fargion hyd yn oed wrth iddo beri i’r gynulleidfa feddwl. Dros y deng mlynedd diwethaf maent wedi creu corff o ddeuawdau sy’n cyfuno ffurfioldeb cyfansoddi cerddoriaeth glasurol ag ymagwedd agored sydd yn aml yn anarchaidd tuag at berfformiad a chynulleidfaoedd, gan ddod â dilynwyr iddynt ar draws y byd.
Yn Cheap Lecture mae’r ddau ddyn yn dwyn ffurf Lecture on Nothing gan John Cage i roi esboniad angerddol a mwyfwy gwallgof am eu gwaith.
Mae’n cael ei dilyn gan The Cow Piece, sy’n ail-lwyfannu’r ddarlith fel dathliad swnllyd o derfynau rhesymeg, lle mai dau fwrdd yw’r llwyfan ar gyfer deuddeg buwch blastig sy’n dawnsio, canu, siarad, meddwl, cysgu, mynd, dod ac yn marw mewn cyfres o ddienyddiadau defodol sydd wedi plesio a bwrw cynulleidfaoedd oddi ar eu hechel ledled y byd.
Ychydig ymarferwyr sydd wedi cael y dylanwad y mae Burrows a Fargion wedi’i gael. Mae eu gwaith yn ffraeth, yn feddylgar ac yn hynod ddifyr. Rydym wrth ein boddau eu bod gyda ni fel rhan o’n gŵyl gyntaf.