Mae Igor a Moreno’n canu, dawnsio ac yn neidio eu ffordd drwy’r darn annwyl, doniol ac ysbrydoledig yma.
Eisiau newid y byd gyda pherfformiad roedden ni ar y dechrau. Roedden ni’n teimlo fel ffyliaid. Yna fe wnaethon ni lot o ddawnsio. Buon ni’n neidio. Buon ni’n galw ar draddodiadau gwerin Sardinia a Gwlad y Basg. Mi ganon ni. Buon ni’n neidio ychydig yn fwy. Mi wnaethon ni ymrwymo. ’Nawr rydyn ni’n addo sticio gyda’n gilydd. Rydyn ni’n addo dyfalbarhau. Rydyn ni addo gwneud ein gorau.
Mi welais i’r darn hwn yn ystod penwythnos hir o ddawns. Roedd yn disgleirio fel seren ac mi wyddwn i fod yn rhaid i ni ei gynnwys yn yr ŵyl. Yn ddigon ffodus, roedd y dyddiadau’n iawn a dyma nhw.
Chris Ricketts, rhaglennydd Gŵyl Ddawns Caerdydd
'Gadewch iddynt ddod i mewn a byddwch yn teimlo’r cariad. Peth bendigedig yw e.’