Mae perffeithrwydd yn ddiflas.
Dawns undyn yw ODE TO THE ATTEMPT y mae Martens wedi’i chreu iddo ei hun. Rhywle iddo gael chwarae o gwmpas ar ôl gwneud rhai darnau dwys, dogmatig bron. Mae dilysrwydd, trin, diffyg brwdfrydedd, perffeithrwydd, hiwmor a phrudd-der yn ffurfio’r eithafion y mae’n symud rhyngddynt. Y canlyniad yw hunanbortread sy’n dinoethi’r dewisiadau y mae’n eu gwneud am ei ffordd o weithio a byw.
‘Ar ôl creu gwaith grŵp ar gyfer wyth dawnsiwr mae bod ar eich pen eich hun ar y llwyfan fel dod adre. Ond ar yr un pryd, mae’n dechrau ffeit gyda chi’ch hun, oherwydd mai dyna natur creu celf: bod â rhywbeth i’w ddweud, gan amau drannoeth a yw’r hyn rydych yn ei ddweud o bwys i neb.’
Bydd darn undyn/un-ddynes a grëir yn ystod yr ŵyl gan artist a ddewisir drwy broses galwad agored yn cael ei berfformio i gyd-fynd â’r perfformiad hwn ar 20 Tachwedd.