Experimentica yn cyflwyno
Gan herio homoffobia a thrawsffobia wyneb yn wyneb, deuawd yw OUT - sgwrs rhwng dau gorff sy’n cerfio math newydd o ofod, gan adfer steil y Neuadd Ddawns a dathlu diwylliant Vogueyng nghanol persawr chwerwfelys orennau.
'We’re shape-shifting in a bid to fit in; to be black enough, straight enough, Jamaican enough…'
Gan gofleidio anghytgord personol, gwleidyddol a diwylliannol, mae’r weithred yma o hunanfynegiant rhyngddisgyblaethol yn bwrw drwy’r hyn a ystyrir yn dderbyniol neu’n annerbyniol, gan alw am leisiau ac ail-greu symudiadau mewn stwnsh bywiog o gofio ac ailddyfeisio.
Enillydd Gwobr Gŵyl yr Ymylon Brighton A Place to Dance South East Dance yn 2017 ac wedi’i enwebu ar gyfer Gwobr Ddawns Total Theatre a The Place 2017
OUT challenges gender conformity and normativity, through raw and pure physical expression. The two performers bare it all on stage, and take us on a demanding, emotional, intense and stimulating journey, elegantly highlighted by oranges.
Cylchgrawn Gŵyl Caeredin ★★★★★
Crëwyd OUT gyda chymorth caredig gan Gyngor Celfyddydau Lloegr, Theatr Marlborough, Theatr The Yard, In Between Time, Leicester Curve, South East Dance a Phrifysgol Greenwich
Delwedd: Marcus Hessenberg