Yn blentyn, byddai Dana Michel yn taenu tywel melyn am ei phen mewn ymgais i efelychu’r merched penfelyn yn yr ysgol. Yn oedolyn, mae’n ailymweld â byd dychmygol ei hunan arall mewn perfformiad sy’n rhydd o wyngalchu neu sensoriaeth.
Mae Yellow Towel yn twrio i stereoteipiau'r diwylliant du, gan eu troi tu chwith allan i weld beth sy’n dod i’r fei. O atgofion dwfn, yn ara deg daw creadur rhyfedd i’r golwg sy’n ymaddasu i’w amgylchiadau mewn trawsffurfiad araf ac annisgwyl.
Ar y dechrau, wedi’i denu gan estheteg ffasiwn, clipiau fideo, comedi a diwylliant queer mae Dana wedi gwneud marc cryf fel rhan o sin ddawns annibynnol Montréal.
Mae Yellow Towel wedi teithio’n helaeth ers ei pherfformiad cyntaf yn y Festival TransAmeriques yn Montréal yn 2013. Y llynedd, cyrhaeddodd ddeg sioe ddawns uchaf Time Out Efrog Newydd ac ennill gwobr arbennig yn ImPulsTanz yn Fienna.